Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagfyr 2012
Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried Bil Trawsblannu Dynol
(Cymru)
1. Ar 3 Rhagfyr 2012, cafodd Bil Llywodraeth, ‘Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)’, ei gyflwyno yn y Cynulliad.
2. Ar 20 Tachwedd 2012, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.
3. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, trefnodd y Pwyllgor Busnes amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 22 Mawrth 2013.
4. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 7
Mehefin 2013, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion
cyffredinol y Bil.